Rydym yn grŵp ymbarél a ffurfiwyd i drefnu Diwrnod Gweithredu COP26 ym Mangor.
Mae'r grŵp hwn bellach yn cyfarfod yn rheolaidd unwaith y mis, gan ddarparu fforwm lle y caiff gwybodaeth a syniadau ar gyfer gweithredu eu rhannu. Mae'r grŵp yn cynnwys aelodau o grwpiau amgylcheddol lleol a gweithredwyr hinsawdd.
Y grwpiau a gynrychiolir ar hyn o bryd yw Cyfeillion y Ddaear (Conwy) , Gwrthryfel Difodiant Gogledd Cymru , GwyrddNi , Divest Gwynedd , Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica a Chymorth Cristnogol Cymru . Mae hefyd yn cynnwys unigolion o gefndiroedd gwahanol, rhai yn gweithio’r tir ac eraill sy’n ymwneud â chyrff anllywodraethol a chyrff amgylcheddol Cymreig.
​
Nod y grŵp yw:
rhoi pwysau ar wleidyddion lleol i sicrhau bod cynllun gweithredu hinsawdd pob cyngor yn ddigon uchelgeisiol ac eang ei gwmpas i wneud gwahaniaeth yn lleol
gweithio ar lefel leol er mwyn grymuso pobl i weithredu’n unigol ac yn lleol
​
Mae gennym ni is-grwpiau sy’n cynrychioli buddiannau’r aelodau presennol:
Caffis Hinsawdd/Adfywio/Gwydnwch
Gweithredu yn erbyn defnyddio mawn