Gall yr argyfwng hinsawdd sy'n wynebu ein planed fod yn llethol. Yma yn rhai camau y gall pob un ohonom eu cymryd.
PEIDIWCH ANGHOFIO. Gwnewch un peth yn unig heddiw a meddyliwch am yr hyn y gallwch ei wneud yfory.
INSIWLEIDDIO INSIWLEIDDIO INSIWLEIDDIO
Yr ynni rhafat yw’r ynni nad ydych yn ei ddefnyddio. Sicrhewch fod gennych o leiaf 30cm (12”) o ynysiad yn yr atig. Edrychwch os gallwch chi gael ynysiad wal geudod ac ynyswch eich hun, â siwmper!
GOLCHWCH DDILLAD AR DYMHEREDD ISEL
Oni bai fod pethau’n fudr iawn mae gwlybwyr golchi modern yn gweithio’n berffaith dda ar 20 gradd neu lai. Ac maen nhw’n llai niweidiol i’r deunydd felly bydd eich dillad yn crebachu llai, yn colli llai o liw ac yn parhau’n hirach.
SYCHWCH DDILLAD TRWY DDEFNYDDIO PÅ´ER GWYNT
Hyd yn oed os yw’n bwrw glaw byddant yn sychu o dan orchudd feranda neu sied agored. Mae peiriannau sychu dillad yn niweidio llawer o ddeunyddiau ac yn gallu bod yn risg tân.
PRYNWCH O SIOPAU ELUSEN
Bargeinion gwych i chi a’r achos sydd o bwys i chi. Mae gan y diwydiant ffasiwn ôl troed carbon enfawr. Mae angen swm enfawr o ddŵr a phlaladdwyr ar gotwm ac mae’r rhan fwyaf o ddeunyddiau synthetig yn olew yn y bôn, felly rhowch gic i ffasiwn cyflym.
CERDDWCH NEU SEICLWCH
Mae llawer o deithiau ceir (a’r rhai sy’n llygru fwyaf pan fydd yr injan yn oer) yn llai na milltir. Dyna pam y cafodd coesau eu dyfeisio.
RHEDWCH i’r gampfa, yna rhedwch yn ôl ac arbedwch ffi aelodaeth y gampfa.
​HEDFANWCH PAN FYDD YN HANFODOL YN UNIG
-
Ydi’r penwythnos yna ym Mhrag yn wirioneddol hanfodol? Mae angen saib arnom i gyd weithiau, ond trwy archebu’n gynnar gallwch gael bargeinion trên dinas i ddinas gwych, heb y dreth maes awyr, y tâl parcio a’r tacsi o ryw faes awyr ynysig i’r dref. Ac mae lleoedd gwych yn agosach at gartref.
PEIDIWCH Â BOD YN SEGURWR
Mae’n anghyfreithlon i redeg injan car llonydd; gallech gael eich dirwyo £20 – a gallwch arbed arian trwy ei diffodd. Does dim angen cynhesu injan fodern a does dim angen i blant modern gael eu bwydo â mwg ceir wrth giât yr ysgol!
BWYTWCH LAI O GIG
Mae llawer ohono’n cael ei gynhyrchu trwy ddinistrio coedwigoedd glaw i dyfu soia i fwydo gwartheg, ieir a physgod. Ac maen nhw’n rhechu methan (heblaw am y pysgod, dw i’n meddwl!) sy’n waeth na CO2 yn ei effaith cynhesu. Ewch yn llysieuol am ddiwrnod a newidiwch i fwyta cig wedi’i fwydo ar wair wedi’i gynhyrchu’n lleol o ansawdd da.
BWYTWCH YR HYN RYDYCH YN EI BRYNU
Mae 30% o fwyd yn cael ei wastraffu, gan gyfrannu at lygredd, tra bod llawer o’r byd yn newynu. Dylech chi farnu dyddiadau terfyn defnydd â’ch trwyn ac mae bwyd dros ben yn gallu gwneud cawliau a stiwiau gwych.
ADDYSGWCH EICH HUN
​Pŵer yw gwybodaeth. Pan fyddwch yn gwybod o ble mae’ch bwyd yn dod a sut mae’n cael ei gynhyrchu a beth sy’n digwydd i ddeunyddiau gwastraff, yna gallwch wneud dewisiadau gwybodus.
MYNNWCH ADDYSG AM YR HINSAWDD
Mae angen i’r genhedlaeth nesaf wneud pethau’n well na’r un ddiwethaf. Mae angen i newid a gwyddoniaeth hinsawdd fod yno ledled y cwricwlwm i roi gwybodaeth, pŵer a gobaith i bobl ifanc.
YSGRIFENNWCH AT EICH CYNGHORYDD, AELOD SENEDD ac AS
Dywedwch wrthynt fod eisiau dyfodol arnoch a dywedwch wrthynt i wneud popeth o fewn eu gallu i roi hwnnw i chi. Mynnwch gymorth ar gyfyr ynysu’r tÅ·, trafnidiaeth gyhoeddus, adfer natur.
PLEIDLEISIWCH
Allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau’n hunain ac ni fydd y Llywodraeth yn helpu oni bai eich bod yn dweud wrthynt. Gadewch i ni roi hinsawdd ar frig eu hagenda.
PEIDIWCH Â RHOI’R BAI AR TSIEINA
Ni ddechreuodd hyn ac rydym oll ynddo gyda’n gilydd. Ac fel y dywedodd yr athronydd Tsieineaidd Lao Tsi, “mae taith mil o filltiroedd yn dechrau ag un cam”;eich un chi.